Dyma wers gyflym ar dorri cod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan ddefnyddio Adobe Expree trwy Hwb - llawer o hwyl, a digon o gyfle i dy ddisgyblion ymchwilio ymhellach i hanes Alan Turing, Bletchley Park ayyb.
Clicia fan hyn i weld y wers fideo:
Gwersi Byw 'Arweinwyr Adobe' |
Pob hwyl, a joia wythnos hanner tymor!
Meredudd
Ymuna â'r cylchlythyr i dderbyn adnoddau am ddim ar ebost!
Addysgwyr Creadigol Adobe: Lefel 1 Tystysgrif DPP a Bathodyn Digidol Ymuna'n rhithiol gyda fi am 4:00-5:30yh pnawn 'ma ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ACE Lefel 1 - yn rhad ac am ddim! Mae'r hyfforddiant yn cynnwys trafodaeth a chyflwyniad ar bwysigrwydd creadigrwydd o fewn addysg, a gweithgaredd hwylus gan ddefnyddio Adobe Express trwy Hwb. Wedi i ti gyflwyno dy waith, cei dystysgrif DPP i'w roi yn dy ffeil Datblygiad Proffesiynol (a rhoi copi ar ddesg y Pennaeth efallai!) ynghyd â...
Cyn dechre', mwynha benwythnos Gŵyl Fai - a paid a meiddio gwneud gwaith ysgol! Dyma'r cyfleoedd Adobe sydd ar gael, yn rhad ac am ddim, wythnos nesa... Addysgwyr Creadigol Adobe: Lefel 1 Tystysgrif DPP a Bathodyn Digidol Ymuna'n rhithiol gyda fi am 4:00-5:30yh ar bnawn dydd Mawrth, Mai y 7fed ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ACE Lefel 1 - yn rhad ac am ddim! Mae'r hyfforddiant yn cynnwys trafodaeth a chyflwyniad ar bwysigrwydd creadigrwydd o fewn addysg, a gweithgaredd hwylus gan...
Helo 'na! Cofia am y wers fyw 75munud ar gyfer Diwrnod y Gofod - dydd Iau am 10:30yb! Mae'r sesiwn am ddim ac yn addas i blant CA2. Rho'r ffrwd fyw ar sgrîn fawr y dosbarth, gyda'r disgyblion wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi agor Adobe Express, ac ymunwch yn yr hwyl! Yn y sesiwn yma, byddwn yn creu dau ddarn o waith digidol ar thema Diwrnod y Gofod. Cofia gofrestru am y sesiwn. Gall ysgolion sydd wedi cofrestru hawlio gwobrau am ddim i bob plentyn sydd wedi cwblhau'r gweithgareddau. Yn ogystal,...